New Dementia Friendly Cardiff website launches
A new website to provide information and advice for people with dementia and their families in Cardiff has been launched today.
The Dementia Friendly Cardiff website will be ‘one-stop shop’ of valuable information about services and support in the city to assist people living with dementia to live well in the capital.
Dementia Friendly Cardiff is a partnership between Cardiff Council, Alzheimer’s Society Cymru and Cardiff and Vale University Health Board, that over recent years has been working towards making Cardiff a more dementia-friendly community.
Developed in consultation with partners, businesses and those living with dementia and their families, the accessible website provides localised information on support available in the city from organisations such as Alzheimer’s Society Cymru, the Memory Clinic, Public Health Wales and Carers Wales as well as services such as the council’s Independent Living Services, Meals on Wheels and Telecare.
The site will also include details of dementia-friendly events, initially on digital platforms at this current time, but physical events at a later date when appropriate.
To mark the launch of the website today, Cardiff City Hall will be lit up in blue and yellow lights – the colours of the Alzheimer’s Society Cymru’s Dementia Friends Forget-me-not logo.
|
Gwefan newydd Caerdydd sy’n Deall Demensia
Mae gwefan newydd i roi gwybodaeth a chyngor i bobl â dementia a'u teuluoedd yng Nghaerdydd wedi'i lansio heddiw.
Bydd gwefan Caerdydd sy’n Deall Demensia yn 'siop un stop' o wybodaeth werthfawr am wasanaethau a chymorth yn y ddinas i helpu pobl sy'n byw gyda demensia i fyw'n dda yn y brifddinas.
Mae Caerdydd sy’n Deall Demensia yn bartneriaeth rhwng Cyngor Caerdydd, Cymdeithas Alzheimer Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, sydd dros y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn gweithio at wneud Caerdydd yn gymuned sy’n deall demensia yn well.
Wedi'i datblygu mewn ymgynghoriad â phartneriaid, busnesau a'r rhai sy'n byw gyda demensia a'u teuluoedd, mae'r wefan hygyrch yn rhoi gwybodaeth leol am y cymorth sydd ar gael yn y ddinas gan sefydliadau fel Cymdeithas Alzheimer Cymru, y Clinig Cof, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Gofalwyr Cymru yn ogystal â gwasanaethau fel Gwasanaethau Byw'n Annibynnol y cyngor, Pryd ar Glud a Theleofal.
Bydd y wefan hefyd yn cynnwys manylion digwyddiadau sy'n ystyriol o ddemensia, ar lwyfannau digidol i ddechrau ar hyn o bryd, ond digwyddiadau corfforol yn ddiweddarach pan fo'n briodol. I nodi lansiad y wefan heddiw, bydd Neuadd y Ddinas Caerdydd yn cael ei goleuo mewn goleuadau glas a melyn – lliwiau logo Cymdeithas Alzheimer Cymru, logo Forget-me-me-not.
Ewch i https://caerdydddealldementia.co.uk/
|